Dewch i gyfarfod y tîm ymroddedig staff tymhorol Yr Ysgwrn
Ers i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymryd yr awennau yn Yr Ysgwrn yn 2012, mae tîm ymroddedig o staff tymhorol wedi bod yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd i’r safle.

Meryl
Mae Meryl yn un o staff tymhorol Yr Ysgwrn ers Mawrth 2018, ond fe gychwynnodd ei siwrne yn Yr Ysgwrn fel gwirfoddolwr n’ôl yn Medi 2017.

Helen
Wedi ei geni a’i magu ym mhentref Trawsfynydd, mae Helen yn un o staff tymhorol yr Ysgwrn ers 2019.

Glain
Glain yw aelod ieuengaf staff tymhorol yr Ysgwrn, ymunodd a’r tîm pan oedd hi’n 16 oed.

Cassin
Mae Cassin yn un o staff tymhorol yr Ysgwrn ac yn gweld hi’n braf gallu cerdded i’r gwaith o ochr arall y cwm.

Alwen
Mae Alwen Derbyshire yn gweithio yn yr Ysgwrn fel staff tymhorol ers Gwanwyn 2018 ac yn ei helfen yno yn adrodd straeon am Hedd Wyn.