Glain yw aelod ieuengaf staff tymhorol yr Ysgwrn, ymunodd a’r tîm pan oedd hi’n 16 oed.
Wedi ei geni a’i magu yn Nhrawsfynydd, mae hi wrth ei bodd yn gweithio yma. Dyma ychydig o’i hanes.
Ers pryd wyt ti’n gweithio yn yr Ysgwrn?

Nes i gychwyn gweithio yma pan oeddwn i yn blwyddyn 11 Ysgol y Moelwyn. Mi oeddwn i wedi gwneud ychydig o waith gwirfoddoli yn helpu yn y clwb natur a’r clwb celf cyn hynny.

Dwi wrth fy modd yn gweithio yma ac er mod i dipyn iau na gweddill y staff, da ni gyd yn ffrindiau mawr.

Wyt ti’n cofio’r tro cyntaf i ti ddod i’r Ysgwrn?

Ydw’n iawn. Mi oeddwn i yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd ac mi ddaethom yma ar daith o amgylch y ffermdy. Tua’r un cyfnod mi gawsom ni hefyd wneud sioe ‘Enwog o Fri ein Hardal Ni’ ar gyfer Stwnsh ar S4C, yn actio stori Hedd Wyn ac mae’n debyg mai’r adeg hynny y gwnes i ddod i nabod y stori yn well.

Cyn hynny, dwi’n cofio’n iawn edrych draw am yr Ysgwrn o ochr arall y cwm ble’r oeddwn i’n byw, a dweud droeon wrth fy nheulu bod angen i ni fynd i weld ‘y lle Hedd Wyn’!

Sut brofiad oedd gwneud dy daith dywys gyntaf?

Dwi wedi gwneud dipyn o siarad cyhoeddus efo’r ffermwyr ifanc ac mae hynny wedi helpu lot. Ond doeddwn i ddim yn awyddus iawn i wneud y teithiau ar y dechrau!

Dwi’n cofio fy nhaith gyntaf yn iawn, a mam bach mi oeddwn i’n nerfus iawn! Ond mi aeth hi yn dda iawn a dwi dal yn hynod ddiolchgar o’r bobl lyfli oedd arni y diwrnod hwnnw.

Dwi di bod yn hollol iawn yn gwneud y teithiau tywys ar ôl hynny.

Oes gen ti hoff ddarn ar y daith?

Un peth bach dwi bob tro yn ei wneud ydy cau drws y parlwr bach lle mae’r gadair cyn i’r ymwelwyr gyrraedd. Mi fydda i wedyn yn cychwyn y daith yn y gegin ac wrth fy modd yn gweld ymateb pobl pan fyddwn ni yn cychwyn draw am y parlwr bach ac yn agor y drws i ddangos y gadair ddu am y tro cyntaf. Mae pobl yn rhyfeddu drosti.

Oes ‘na unrhyw ymwelwyr yn aros yn y cof?

Dw i’n cofio un ddynes o Ganada yn eistedd yna, yn gwneud nodiadau o bob dim oeddwn i yn ei ddweud..sgwennu y cyfan i lawr a gofyn llwyth o gwestiynau!

Pa stori sy’n synnu pobl fwyaf?

Dw i’n licio sôn am y pedwar brawd – Efan a Bob, dau o frodyr Hedd Wyn a Gerald ac Ellis, gafodd eu magu yma gan fam Hedd Wyn.

Mae’n synnu pobl fod y pedwar wedi aros fan hyn yn yr Ysgwrn yn ffermio tan ddiwedd eu hoes ac nad oedd yr un ohonyn nhw wedi cael teulu.

This site is registered on wpml.org as a development site.