Rhan gynhenid o ddiwylliant a thraddodiad barddoniaeth Gymraeg

Credir bod traddodiad cadeiriau barddol Cymreig a’r arfer o gadeirio beirdd yn dyddio’n ôl cyn belled â 1176. Y seremoni gadeirio yw’r seremoni fwyaf arwyddocaol sy’n cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r gystadleuaeth amlycaf yn niwylliant barddoniaeth Gymraeg.

Mae’r Seremoni Gadeirio yn un o’r seremonïau mwyaf arwyddocaol a gynhelir mewn Eisteddfod. Mae Seremonïau’r Cadeirio yn cyhoeddi’r bardd llwyddiannus yng nghystadleuaeth ‘Y Gadair’.

Cynhelir seremonïau mewn Eisteddfodau Cylch a Sir, fodd bynnag, cynhelir y seremoni fwyaf disgwyliedig yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae bardd sy’n llwyddiannus yng nghystadleuaeth ‘Y Gadair’ yn cael eu cydnabod fel ‘Prifardd’.

Comisiynir cadair farddol newydd bob blwyddyn ac mae eu dyluniadau yn aml yn adlewyrchu lleoliad yr Eisteddfod y flwyddyn benodol honno.

Mae cadeiriau barddol yn gadeiriau pren hynod addurnedig wedi’u crefftio gan ddylunwyr a chrefftwyr medrus iawn.

Y Gadair Ddu, Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 Eisteddfod Pontardawe 1915 x Eisteddfod Llanuwchllyn 1915
Y Gadair Ddu, Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917
Eisteddfod Pontardawe 1915
x
Eisteddfod Llanuwchllyn 1915

Cystadlu am y Gadair

Mae cystadlu am y gadair yn gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu cerdd ffurf hir a elwir yn ‘awdl’. Cyhoeddir pwnc gwahanol bob blwyddyn y mae’n rhaid i ymgeiswyr selio eu gwaith. Rhan annatod o ‘awdl’ yw’r gynghanedd—cysyniad barddonol sy’n seiliedig ar drefniant odlau, cyflythrennu ac acenion. Mae’r grefft o gynghaneddu yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol.

Cadeiriau Barddol Hedd Wyn

Er ei gyfnod byrhoedlog fel bardd, daeth Hedd Wyn yn fuddugol mewn sawl cystadlaeth am y gadair mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Mae ei fuddugoliaethau yn cynnwys:

  • Eisteddfod Leol Pwllheli (1913)
  • Eisteddfod Leol Llanuwchllyn (1913)
  • Eisteddfod Leol Pontardawe (1915)
  • Eisteddfod Leol Llanuwchllyn (1915)
  • Eisteddfod Genedlaethol Penbedw (1917)

Wrth gwrs, ei fuddugoliaeth mwyaf nodedig oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917 pan y bu’n llwyddianus gyda’i gerdd ‘Yr Arwr’ wedi iddo ddioddef anaf angeuol yn ystod Brwydr Passchendaele rhai wythnosau ynghynt.

This site is registered on wpml.org as a development site.