Gofod cyfleus a chartrefol i gyfarfod a chynnal gweithgareddau

Ydych chi’n edrych am ofod cyfleus a chartrefol i gynnal cyfarfod, digwyddiad neu weithgaredd? Gall awyrgylch ymlaciol, cysurus a chlyd Yr Ysgwrn ynghyd â’i ardaloedd awyr agored helaeth fod yn le perffaith.

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/269_ffN_Ysgwrn_197.jpg
Ystafell Fawr, Beudy Llwyd
Mae’r Ystafell Fawr yn addas i hyd at 60 o bobl eistedd mewn rhesi neu 40 o amgylch byrddau. Mae modd cau'r ystafell oddi wrth y cyhoedd ond nid yw'r ystafell yn wrthsain.

Costau Llogi

Mae gostyngiad ar gael i grwpiau cymunedol ac elusennau bychan.

Ystafell Fawr

Diwrnod llawn: £120
Hanner diwrnod: £65

Lluniaeth

Os ydych am estyn croeso cynnes i’ch mynychwyr, mae modd archebu lluniaeth drwy’r Ysgwrn.

Te a choffi (coffi ffilter lleol Poblado)
£2.50 y pen

Te, coffi a bisgedi
£3 y pen

Te, coffi a chacen (Opsiynau di-glwten/fegan ar gael ar alw)
£4.50 y pen

Cinio
Pris ar gael ar gais

Llogi’r Ysgwrn

Cysylltwch gyda’r Ysgwrn i wneud ymholiad llogi.

Cysylltu

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.