Bydd tîm ymroddedig Yr Ysgwrn bob amser yn ystyried eich anghenion ac yn teilwra eich ymweliad i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau o ymweld â’r safle. P’un a ydych yn ysgol neu’n grŵp mae digonedd i’w ddarganfod yn Yr Ysgwrn.
Mae drysau’r Ysgwrn bob amser ar agor ac yn barod i groesawu ymweliadau grŵp ac ysgolion.
Mae tîm ymroddedig Yr Ysgwrn wedi croesawu grwpiau di-ri dros y blynyddoedd a byddant yn sicrhau y bydd eich ymweliad â’r Ysgwrn yn un cofiadwy.
Grwpiau
Mae bob amser croeso cynnes i grwpiau cymdeithasol a chymunedol yn Yr Ysgwrn. Bydd tîm staff tymhorol Yr Ysgwrn wrth law i sicrhau fod eich ymweliad yn un cofiadwy.
Taith Ffermdy: £7.50 i bob aelod o’r grŵp
Taith Ffermdy, sgwrs, te a chacen: £12.50 fesul aelod o’r grŵp
Ysgolion
Er mwyn sicrhau’r profiad gorau i ddisgyblion ysgol, rydym yn awgrymu hyd at 30 ar gyfer pob ymweliad ond os oes gennych chi grŵp mwy, cysylltwch â ni i drafod opsiynau.
Rydym yn disgwyl i athrawon a chymorthyddion oruchwylio disgyblion ar y safle bob amser.
Taith dywys o amgylch y ffermdy: £5 y disgybl
Trefnu ymweliad fel grŵp neu ysgol
Cysylltwch â’r Ysgwrn i gychwyn trefnu eich ymweliad chi.
Cefnogaeth ariannol ar gyfer Costau Cludiant
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gallu cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer costau cludiant i ysgolion sydd yn ymweld â’r Ysgwrn.
Ffurflen Cefnogaeth Ariannol ar gyfer Costau Teithio (PDF, 147KB)
Cynllun Ewch i Weld
Cynllun yw Ewch i Weld gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n ariannu ymweliadau i ddigwyddiadau celfyddydol o safon mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydol a lleoliadau eraill. Gall digwyddiadau gynnwys ymweliadau a pherfformiadau ac arddangosfeydd neu ymweliadau er mwyn gweld gweithwyr celfyddydol proffesiynol wrthi’n datblygu a chreu eu gwaith.
Asesiad Risg
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi paratoi asesiad risg ar gyfer ymweliadau ysgolion.
Canllawiau Amlieithog Ymweld fel Grŵp
Canllaw ar gyfer Grwpiau Teithio ac Addysgol (PDF, 703KB)
Guide for Tour and Education Groups (PDF, 706KB)
Handbuch für touristische und Bildungsreisegruppen (PDF, 701KB)
Guide pour les groupes touristiques et éducatifs (PDF, 703KB)
Gids voor rondleidingen en educatieve groepen (PDF, 705KB)