Wedi ei geni a’i magu ym mhentref Trawsfynydd, mae Helen yn un o staff tymhorol yr Ysgwrn ers 2019.
Yma fe gawn ychydig o’i hanes.
Beth wnaeth eich denu i weithio yn yr Ysgwrn?

Nes i gychwyn yma fel gwirfoddolwr, ac wedyn penderfynu gwneud cais am swydd. Nes i ddim meddwl yn fy oed i y byddwn yn cael swydd eto, ond mi oedd y peth gorau wnes i. Mae gen i reswm i godi yn y bore rwan.

Mae na ambell fore yn does, lle ti ddim yn dy hwyliau, ond dwi’n cerdded fyny fama a mae na rhyw naws arbennig, heddychlon yma, sy’n gwneud popeth yn well. Mae’n anodd egluro y teimlad ydw i yn ei gael ond mae’n sicr yn codi fy hwyliau i.

Mae’r Ysgwrn yn rhoi pleser mawr i mi.

Ydych chi’n cofio dod yma yn blentyn?

Ydw, dwi’n cofio cael dod yma yn fach efo’r ysgol ac mi oedd stori Hedd Wyn yn rhywbeth oedda ni wedi tyfu fyny efo fo. Dwi’n cofio chwarae lawr wrth yr odyn yng ngheg y lon pan oeddwn i yn fach a cofio meddwl pa mor rhyfeddol oedd hi fod Hedd Wyn yn arfer dod yno efo’i ffrindiau hefyd.

Mi oedd y mab yn arfer dod i hela fyny i goedlan yr Ysgwrn hefyd, felly mae o wedi bod yn rhan fawr o mhlentyndod i a fy mhlant.

Beth ydy eich hoff ddarn o’r daith dywys?

Dwi wrth fy modd yn y gegin, yn sôn am y ffordd oedden nhw’n byw. Dwi’n rhyfeddu sut oedd mam Hedd Wyn yn llwyddo i baratoi bwyd ar gyfer teulu o naw yn y gegin fach efo’r tan agored. Mi oedd mam Hedd Wyn yn dynes ddewr a chryf iawn ddywedwn i.

Criw bach fydda i yn licio tywys o amgylch y ffermdy, gan nad ydw i yn rhy hoff o siarad o flaen criw mawr. Rhyw chwech i wyth o bobl ydy’r criw perffaith i mi!

Oes na unrhyw stori yn aros yn eich cof?

Dwi’n cofio rhoi taith i griw o blant ysgol yn y gegin – a finna’n dangos y bachyn lle byddai’r mochyn wedi hongian, ac yn egluro sut y bydden nhw wedi coginio y cig moch ar y tan. Mi oeddent i gyd yn edrych yn geg-agored arna i a phan nes i ofyn os oedd gan unrhyw un gwestiwn dyma na un hogyn bach yn codi ei law…A’r cwestiwn ges i oedd “Did they have ketchup with their bacon?”. Doedd o methu deall sut oedden nhw yn gallu bwyta brechdan cig moch heb sos coch!

Mae’r Ysgwrn wedi ail-agor ers dechrau Ebrill – am beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf?

Cael gweld pobl eto. Gan mod i yn byw ar ben fy hun, mae cael cwmpeini yn neis.

Mae o yn reswm i mi godi yn y bore a mae na griw da yn gweithio yma. Dwi wrth fy modd yma.

This site is registered on wpml.org as a development site.