Mae oriau agor Yr Ysgwrn yn amrywio o dymor i dymor. Dyma’r oriau agor diweddaraf:

Oriau Agor

8fed o Ebrill i 26ain o Fai, 2024:

  • Dyddiau: Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn
  • Oriau: 10:30yb i 5:00yh

27ain o Awst i 1af o Fedi, 2024:

  • Dyddiau: Dydd Mawrth i Ddydd Sul
  • Oriau: 10:30yb i 5:00yh

2il o Fedi i’r 2il o Dachwedd, 2024:

  • Dyddiau: Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn
  • Oriau: 10:30yb i 5:00yh
Ymweld

Mae ymweld â safle’r Ysgwrn yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys ardaloedd awyr agored prydferth i fwynhau picnic fel teulu, caffi sy’n gwerthu te, coffi, diodydd a chacennau a siop yr amgueddfa.

Gallwch hefyd fanteisio ar y llwybrau cerdded amrywiol sydd yn ymlwybro drwy’r ffermdir.

Mynediad i Ffermdy’r Ysgwrn

Os hoffech ymweld â ffermdy’r Ysgwrn, bydd angen archebu taith dywys ymlaen llaw. Bydd y daith yn rhoi cipolwg anhygoel i chi o fywyd cefn gwlad Cymru ar droad yr 20fed ganrif dan arweiniad un o staff tymhorol Yr Ysgwrn.

Rydym yn cynnal pedair taith dywys yn ystod y dydd. Mae mynediad i ardaloedd eraill o safle’r Ysgwrn, megis y siop, caffi, arddangosfeydd ac ardaloedd awyr agored yn rhad ac am ddim.

Archebu Lle ar Daith Tywys

This site is registered on wpml.org as a development site.