Ffermdy traddodiadol Gymreig a ddaeth yn symbol i genhedlaeth

Ffermdy cerrig traddodiadol Cymreig yw Yr Ysgwrn wedi ei leoli yn y bryniau uwchben Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae’n fwyaf adnabyddus fel cartref Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, y bardd Cymraeg enwog a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hanes a Symboliaeth

Adeiladwyd Yr Ysgwrn ym 1830 ac mae’n enghraifft wych o ffermdy nodweddiadol o’r 19eg ganrif. Mae waliau cerrig trwchus y ffermdy yn gartref i gegin, parlwr, tair ystafell wely a bwtri, yn ogystal â stabl, certws a llofft wair.

Symudodd teulu Hedd Wyn i’r Ysgwrn yn ystod gwanwyn 1887 o bentref cyfagos Trawsfynydd. Ychydig fisoedd oed fyddai Hedd Wyn pan symudodd y teulu i’r ffermdy. Ar y pryd, fferm fynydd 168 erw oedd yn perthyn i deulu tad Hedd Wyn oedd Yr Ysgwrn.

Ym 1917, daeth Yr Ysgwrn yn llawer mwy na ffermdy Cymreig nodweddiadol wedi i hanes trasing Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyrraedd yr ardal

Roedd Hedd Wyn yn un o’r llu o ddynion ifanc oedd yn ymladd ar reng flaen y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr oedd hefyd yn fardd brwd, gan gystadlu mewn llawer o Eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ym mis Gorffennaf 1917, cyflwynodd gerdd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Erbyn diwedd y mis hwnnw, roedd wedi cael ei anafu’n angheuol yn ystod diwrnod cyntaf y gwrthdaro ym Mrwydr Passchendaele.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym Medi 1917, cyhoeddwyd mai Hedd Wyn oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ar yr un gwynt, cyhoeddwyd i’r gynulleidfa y newyddion trasig fod y bardd ifanc wedi colli ei fywyd ychydig wythnosau ynghynt. Gorchuddwyd y gadair â lliain ddu, gan roddi’r enw ‘Y Gadair Ddu’ ar gadair farddol y flwyddyn honno.

Danfonwyd y gadair i’r Ysgwrn wedi’r seremoni, wedi’i gorchuddio â’r lliain ddu o hyd, a daeth ffermdy’r Ysgwryn yn symbol o hanes Hedd Wyn a cholledion trasig y Rhyfel Byd Cyntaf am byth.

Bywyd yn Yr Ysgwrn

Bywyd syml ond anodd oedd bywoliaeth gwledig Cymeig ar droad yr 20fed ganrif. Roedd y diwrnod yn cylchdroi o amgylch gweithio’r tir a gofalu am y fferm yn ogystal â choginio a glanhau.

Cysegrwyd y Suliau i addoli. Roedd capeli gwledig yn lefydd i gymdeithasu yn ogystal ag addoli ac yn rhan fawr o fywyd nifer fawr o drigolion ardaloedd gwledig.

Roedd barddoniaeth yn fodd gwych o ddifyrwch ac adloniant o fewn y gymuned a byddai cystadlu mewn Eisteddfodau lleol gyda gweithiau o bob math yn boblogaidd.

Hedd Wyn oedd yr hynaf o unarddeg o blant oedd yn byw yn Yr Ysgwrn. Roedd y teulu’n rhannu’r tair ystafell wely fach i fyny’r grisiau yn y ffermdy.

Prynu’r Ysgwrn

Bu aelodau o deulu Hedd Wyn yn byw yn Yr Ysgwrn nes yn ddiweddar. Ganed Gerald Williams yn y ffermdy yn 1929. Roedd ei fam, Ann Williams, yn un o frodyr a chwiorydd iau Hedd Wyn. Bu Gerald yn byw yn Yr Ysgwrn tan 2012. Am flynyddoedd, bu’n ffermio’r tir o amgylch y ffermdy a daeth yn geidwad i stori Yr Ysgwrn a Hedd Wyn. Croesawodd Gerald ymwelwyr i’r cartref am flynyddoedd a gweithiodd yn ddiflino i sicrhau bod stori ei ewythr yn parhau.

Fodd bynnag, yn 2012, penderfynodd Gerald ei bod yn bryd trosglwyddo gwarchodaeth Yr Ysgwrn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

O dan ddymuniad Gerald, prynodd Awdurdod y Parc, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Loteri Genedlaethol, y ffermdy a’r tiroedd o’i amgylch gan ei sicrhau i’r genedl.

Mae tîm ymroddedig Yr Ysgwrn wedi bod yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd ers hynny.

Yr Ysgwrn Heddiw

Heddiw, saif y ffermdy rhestredig Gradd II* fel symbol diffiniol o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol ar droad yr 20fed ganrif yn ogystal â traddodiad barddol Cymraeg ac, wrth gwrs, stori drasig Hedd Wyn.

Fferm weithiol fu’r Ysgwrn erioed ac mae’r tir o’i chwmpas yn dal i gael ei ffermio heddiw gyda defaid a gwartheg.

Mae’r ffermdy wedi’i leoli yng nghanol tirwedd heddychlon a harddwch naturiol y Parc Cenedlaethol. Mae’r Ysgwrn yn le i fwynhau tawelwch a heddwch.

This site is registered on wpml.org as a development site.