Mae Meryl yn un o staff tymhorol Yr Ysgwrn ers Mawrth 2018, ond fe gychwynnodd ei siwrne yn Yr Ysgwrn fel gwirfoddolwr n’ôl yn Medi 2017.
Yma, mae hi yn rhannu ychydig o’i hanes a’i rhesymau am ddechrau gwirfoddoli.
Pam wnaethoch chi gychwyn gwirfoddoli yn Yr Ysgwrn?

Mi wnes i ymddeol ym mis Mehefin 2017, ar ôl gweithio yn y banc am 38 o flynyddoedd. Mwya’ sydyn, mi oedd na wagle mawr yn fy mywyd a toeddwn i ddim yn gwybod beth i wneud efo fi fy hun.

Yn y banc, mi oeddwn i hefo pobl trw’r dydd. Mi oedd na griw da yn gweithio yna a’r cwsmeriaid wrth gwrs – oedd hefyd fel ffrindiau i mi erbyn y diwedd.

Felly mi oeddwn i angen rhywbeth i lenwi’r gwacter yna, ac mi glywais fod yr Ysgwrn yn cynnal diwrnod agored yn chwilio am wirfoddolwyr.

Dod am rhyw fore neu bnawn bach yr wythnos i wirfoddoli oeddwn i i ddechrau – yn cael mynd efo’r genod ar y daith o amgylch y tŷ i ddysgu’r hanes, a helpu i wneud paned a chlirio byrddau yn y caffi ac ati.

Mae gen i gywilydd deud nad oedd gen i fawr o ddiddordeb yn Hedd Wyn cyn hynny, nac erioed wedi bod yn yr Ysgwrn a minnau ond yn byw lawr y lon! Ond dwi wedi dysgu gymaint ers cychwyn, ac wrth fy modd gyda’r hanes erbyn hyn. Dwi’n gwybod lot mwy am y rhyfel a realiti byw yng nghefn gwlad ar droiad y ganrif.

Mi ydych chi’n gweithio fel staff tymhorol ers Mawrth 2018 – sut brofiad ydy hynny?

Dwi wrth fy modd yn mynd a phobl rownd y ffermdy, yn enwedig criwiau bach, a gweld sut maen nhw yn rhyfeddu at yr hanes.

Dwi hefyd yn hoffi bod yn y caffi, yn enwedig pan fydd y criw ydw i newydd dywys yn y tŷ yn dod lawr am baned, a’r cyfle sydd yna i gael sgwrs bellach ac iddyn nhw ofyn mwy o gwestiynau ar ôl gweld y ffilm ac ati.

Beth mae ymwelwyr yn synnu fwyaf ato pan ydych chi’n dweud yr hanes?

Dwi’n meddwl mai beth sy’n eu synnu nhw fwyaf ydy’r ffaith fod Gerald wedi byw yn y tŷ, fel mae o bron, tan yn ddiweddar iawn. Tydyn nhw jysd methu credu y bysa rhywun wedi gallu byw yn y mileniwm yma heb y ‘creature comforts’ yda ni mor gyfarwydd â nhw!

This site is registered on wpml.org as a development site.