Os oes gennych grair neu arteffact hoffech ei gyfrannu i’r Ysgwrn, plis cysylltwch a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol drwy ebost: naomi.jones@eryri.llyw.cymru

Rydym yn ddiolchgar am y nifer uchel o ymholiadau rydym yn eu derbyn gan unigolion sydd am gyfranu arteffactau I’r Ysgwrn ond yn anffodus, nid oes modd i ni dderbyn yr holl eitemau a gynigir i ni. Dim ond dan amgylchiadau penodol iawn y mae modd i ni dderbyn eitemau ac fel cam cyntaf, mae’n hanfodol eu bod yn cydymffurfio a’n Polisi Casglu ac yn berthnasol i un neu fwy o’r themau canlynol:

  • Hedd Wyn
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Treftadaeth Amaethyddol
  • Diwylliant yr iaith Gymraeg
  • Hanes cymdeithasol troad yr G20

Noder mai mater dewisiol i Fwrdd Yr Ysgwrn ydi’r penderfyniad i dderbyn creiriau. Gofynnwn yn garedig i chi beidio dod ag arteffactau i’r Ysgwrn heb gysylltu ymlaen llaw, gan na fydd ein staff a gwirfoddolwyr yn medru eu derbyn.

This site is registered on wpml.org as a development site.