Bugail, bardd a milwr

O dan ei enw barddol ‘Hedd Wyn’, daeth Ellis Humphrey Evans yn un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru.

Pwy oedd Hedd Wyn?

Ganwyd Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans) ar Ionawr 13, 1887. Hedd Wyn oedd y cyntaf o unarddeg o blant a anwyd i Evan a Mary Evans. Symudodd y teulu i’r Ysgwrn yng ngwanwyn 1887.

Bardd a bugail oedd Hedd Wyn. Arweiniodd fywyd Cymreig gwledig nodweddiadol o’r 19eg ganrif yn Nhrawsfynydd lle’r oedd crefydd, amaethyddiaeth ac Eisteddfodau yn rhan annatod o gymdeithas.

Hedd Wyn a’r Rhyfel Byd Cyntaf

Fel heddychwr Cristnogol, wnaeth Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans) ddim ymrestru yn ystod hanner cyntaf y rhyfel. Mi wnaeth y rhyfel achosi rhwygiadau dwfn o fewn y gymuned rhwng y rhai a oedd yn cefnogi’r rhyfel a’r rhai oedd yn erbyn ymladd ar sail grefyddol.

Yn ogystal, roedd gwaith bugeilio a ffermio yn cael eu hystyried yn swyddi oedd yn cael eu neilltuo. Roedd gwneud yn siŵr bod gan y wlad ddigon o fwyd ar gyfer pawb yn ystod y rhyfel yn hollbwysig. Doedd dim rhaid i feibion ​​fferm ymuno yn y fyddin i ymladd.

Ond, erbyn 1916, daeth y consgripsiwn i rym ac mi oedd rhaid i ddynion o oedran penodol ymuno gyda’r fyddin. Mewn teulu amaethyddol, dim ond un o feibion ​​y teulu oedd rhaid danfon. Yn 29 oed, gwirfoddolodd Hedd Wyn fel nad oedd rhaid i’w frawd iau, Robert, ymuno â’r ffrynt.

Ym mis Chwefror 1917, ymunodd Hedd Wyn â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Ngwersyll Hyfforddi Litherland, Lerpwl. Byr oedd ei amser yn y gwersyll hyfforddi. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn honno, roedd y llywodraeth wedi galw ar weithwyr fferm i ddychwelyd i’w ffermydd i gefnogi’r gwaith o aredig y tir. Cafodd Hedd Wyn, a llawer o filwyr eraill, seibiant dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd ysgrifennu ei awdl buddugol, ‘Yr Arwr’.

Erbyn Gorffennaf 1917, roedd Hedd Wyn ar ei ffordd yn ôl i’r ffrynt. Anfonodd ei gynnig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol o bentref bychain yng ngogledd Ffrainc. Erbyn diwedd y mis, roedd ei gatrawd wedi cyrraedd Ypres ac yn rhan o Frwydr Passchendaele. O fewn yr ychydig oriau cyntaf o’r frwydr, cafodd Hedd Wyn ei ladd.

Hawliodd y Rhyfel Byd Cyntaf fwy nag 16 miliwn o fywydau—yn filwyr ac yn sifiliaid. Mae Hedd Wyn wedi’i gladdu ym Mynwent Beddau Rhyfel y Gymanwlad ‘Artillery Wood’ yng Ngwlad Belg.

Hedd Wyn a’r Gadair Ddu

Erbyn 1916, roedd Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans) wedi dod yn fardd medrus, gan gystadlu ar lefel leol a chenedlaethol. Roedd eisoes wedi mabwysiadu ei enw barddol ‘Hedd Wyn’ ac wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.

Parhaodd Ellis i ysgrifennu trwy gydol y rhyfel. Ym mis Gorffennaf 1917, tra ar y ffordd i’r ffrynt yng Ngwlad Belg, danfonodd Hedd Wyn ei gynnig i Eisteddfod Genedlaethol Penbedw o bentref bychan yng ngogledd Ffrainc. Arwyddodd y gwaith o dan y ffug enw, Fleur De Lys. Erbyn diwedd yr un mis, roedd Hedd Wyn wedi cael ei ladd ym Mrwydr Passchendaele.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym mis Medi yr un flwyddyn. Fel arfer, safodd yr Archdderwydd o flaen y gynulleidfa gan wahodd y bardd tu ôl i’r ffug enw i sefyll ar eu traed.

Y flwyddyn honno, wnaeth neb sefyll ar eu traed.

Dyna pryd y datgelodd yr Archdderwydd mai’r bardd tu ôl i’r ffug enw ‘Fleur De Lys’ oedd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn o Drawsfynydd. Cyhoeddwyd hefyd fod Hedd Wyn wedi colli ei fywyd yn y rhyfel chwe wythnos ynghynt.

Gorchuddiwyd y gadair farddol â lliain du, a dyna pam ein bod ni yn ei galw yn ‘Y Gadair Ddu’.

Daeth Hedd Wyn a’i stori yn symbol o’r bywydau ifanc gafodd eu colli yn ystod y rhyfel.

Addysg a Gweithiau

Cafodd Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans) ei addysg yn yr ysgol gynradd leol yn ogystal a’r ysgol Sul. Fodd bynnag, fel llawer o bobl ifanc yr oes, fe adawodd yr ysgol yn 14 oed a mynd yn syth i weithio ar y fferm.

Roedd Hedd Wyn yn adnabyddus o fewn y gymuned am ei ddawn naturiol i farddoni. Trwy ei chwilfrydedd ei hun, daeth i ddeall barddoniaeth Gymraeg a Saesneg yn dda

Roedd Hedd Wyn yn defnyddio crefydd a natur yn aml fel ysbrydoliaeth. Mae ei gerdd ‘Eryri’ yn awdl i’r ardal hardd y cafodd ei fagu, tra bod ‘Ystrad Fflur’ wedi’i hysgrifennu am adfeilion abaty Sistersaidd canoloesol yng Ngheredigion. Daeth y gerdd yn ail yng nghystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1916.

Fe wnaeth y rhyfel ysbrydoli nifer o gerddi Hedd Wyn ac mae Plant Trawsfynydd, Y Blotyn Du a Rhyfel yn enghreifftiau da.

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/Gerald-1-1.jpeg
Gerald Williams
Ffermwr a nai i Hedd Wyn a fu’n geidwad i’r Ysgwrn am flynyddoedd lawer.
Gerald Williams
This site is registered on wpml.org as a development site.