Mae'r Ysgwrn ar gau dros dymhorau'r hydref a'r gwanwyn. Mae modd ymweld fel grŵp ar alw.
Camwch yn ôl mewn amser i fywyd cefn gwlad yr 20fed ganrif

Bydd teithiau Ffermdy Yr Ysgwrn yn rhoi mewnwelediad byw i chi ar fywyd yn Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn. Dan arweiniad un o staff tymhorol ymroddedig Yr Ysgwrn, bydd y daith yn mynd â chi yn ôl mewn amser i fywyd cefn gwlad Cymru ar droad yr 20fed ganrif ac yn rhoi cyfle i chi weld cadeiriau barddol Hedd Wyn.

Amseroedd Teithiau

Mae’r Ysgwrn ar gau dros dymhorau’r hydref a gaeaf.

Mae dal modd ymweld fel grŵp neu ysgol drwy gysylltu â’r Ysgwrn ymlaen llaw.

Trefnu ymweliad grŵp neu ysgol

Prisiau Teithiau

Oedolyn: £8.50
Plentyn: £4.50
Tocyn Teulu: £20

Mynediad am ddim i’r caffi a siop, yr ardaloedd agored a’r llwybrau cerdded.

Archebu lle ar Daith Tywys

Os dymunwch ymweld â ffermdy’r Ysgwrn, argymhellir eich bod yn archebu lle ymlaen llaw. Ni allwn warantu lle ar daith tywys oni bai eich bod yn archebu lle.

Mae’r Ysgwrn yn gweithio ar system archebu arlein ar hyn o bryd. Fodd bynnag, am y tro gallwch gadw lle ar daith drwy gysylltu â’r Ysgwrn.

Ffôn: 01766 772508
Ebost: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru

This site is registered on wpml.org as a development site.