Mae Cassin yn un o staff tymhorol yr Ysgwrn ac yn gweld hi’n braf gallu cerdded i’r gwaith o ochr arall y cwm.
Dyma ychydig o’i hanes.
O ble ydych chi’n dod yn wreiddiol ac ers pryd ydych chi’n gweithio yn yr Ysgwrn?

Dwi wedi fy magu yn Nhrawsfynydd ac yn byw yma rŵan. Yn rhyfedd, chawsom ni ddim dod yma pan oeddwn i yn yr ysgol fach ond dw i’n cofio dod yma efo rhieni ffrind i mi. Mi oeddwn i wastad wedi clywed am Hedd Wyn wrth gwrs.

Nes i gychwyn gweithio yma yn 2019. Mi oeddwn i yn chwilio am rhywbeth rhan amser a gan fod fy nhŷ i gyferbyn â’r Ysgwrn, nes i feddwl y byddai’n neis gallu cerdded i’m gwaith.

Wedyn mi es i draw rhyw b’nawn i holi rhag ofn eu bod yn chwilio am rhywun, a myn dian i, mi oedden nhw ac mi ges i’r swydd!

Dwi’n meddwl mai fy mhoen mwyaf i wrth gychwyn yma oedd siarad Saesneg. Oedd hynny wir yn fy mhoeni i…ma’n Saesneg i yn garpiog iawn gan nad ydw i yn ei siarad yn aml. Ond ar ôl dechrau gwneud y teithiau, mi oeddwn i’n iawn.

Mi fuodd rhaid i mi ddysgu llawer pan nes i gyrraedd yma a dw i dal i ddysgu bob dydd…gan y bobl sy’n ymweld hefyd.

Pa ran o’r daith sydd orau gennych chi?

Dwi’n licio dweud yr hanes yn y gegin – wrth fy modd yn fanno.

Dwi hefyd yn hoffi’r gadair ddu wrth gwrs ac mae ei lliw tywyll yn fy atgoffa o breniau llong derw sydd yn y waliau acw adra. Mae rheiny hefyd wedi troi’n ddu gan fod derw yn tywyllu ar ôl bod mewn dwr yn ôl pob tebyg.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn gweithio yn yr Ysgwrn?

Gweithio mewn cartref henoed oeddwn i. Dw i’n cofio pobl yn y cartref yn sôn am y rhyfel, yn enwedig y dynion ac a bod yn onest, doedd gen i fawr o ddiddordeb yn y sgwrs.

Ond ers gweithio yma, dw i wedi cael rhyw awydd gwybod mwy o lawer am gyfnod y rhyfel a’r effaith ar gymunedau cefn gwlad fel Trawsfynydd.

Oes yna unrhyw ymwelydd yn aros yn y cof?

Dw i’n cofio hogan ifanc yn galw yma gyda’i dau o blant a’i gwr. Mi oedd hi wedi bod yma yn blentyn ac wedi gwirioni efo’r enw Ellis – gymaint felly fel ei bod eisiau enwi ei phlentyn ar ei ôl os cai fab. Ond dwy ferch gafodd hi, ac mi enwodd un ohonyn nhw yn Ffion Ellis.

Mae pethau fel yna yn mynd at galon rhywun.

Mae’r Ysgwrn wedi ail-agor am y tymor ers dechrau Ebrill – at beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Be dwi’n edrych ymlaen ato fwyaf ydy i weld pobl eto – ma hi’n braf cael sgwrs.

This site is registered on wpml.org as a development site.