Yr haf hwn, mae Yr Ysgwrn yn cynnig cyfle cyffrous i unigolion a grwpiau sy’n awyddus i gynnal gweithgareddau cymunedol, creadigol neu ddiwylliannol, ac sy’n chwilio am ofod addas i wneud hynny. Dros fisoedd Gorffennaf i Fedi, rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn defnyddio’r Ysgwrn fel lleoliad ar gyfer gweithgareddau sy’n cefnogi’r gymuned leol ac sy’n cyd-fynd â natur y safle fel hwb diwylliannol.
Fel rhan o’r cynnig hwn, bydd un sesiwn gyntaf ar gael am ddim, gan ddefnyddio naill ai’r Beudy Llwyd neu’r Oriel (yn ddibynnol ar argaeledd). Mae croeso i hwyluswyr godi tâl ar gyfranogwyr os dymunant. Os bydd y sesiwn cyntaf yn llwyddiannus, bydd modd trefnu sesiynau pellach tan 30 Medi ar bris disgownt o £25 am weithgaredd hanner diwrnod a £50 am weithgaredd drwy’r dydd.
I ddatgan eich diddordeb i gynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad yn Yr Ysgwrn, llewnch y ffurflen isod:
Os gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffwch sgwrs bellach plîs cysylltwch: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru