Bydd yr arddangosfeydd yn ymweld â dau leoliad yng Nghymru.
Darganfyddwch bŵer byd natur i danio’r dychymyg wrth i’r llyfr poblogaidd ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words) ddod yn fyw mewn dwy arddangosfa unigryw’r haf hwn.
Dod â llyfr arobryn yn fyw
Mae’r llyfr arobryn, ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words), yn defnyddio swyn-ganeuon yn ogystal â darluniau trawiadol i ailgyflwyno rhai o rywogaethau byd natur yn ôl i’n geirfaoedd a’n hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i’w gwarchod.
Yr haf hwn, mewn partneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, bydd y llyfr yn sail i ddwy arddangosfa arbennig yn Yr Ysgwrn, Eryri, ac Oriel y Parc yn Sir Benfro.

Cyfuniad unigryw o gelf a barddoniaeth
Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, Hamish Hamilton a Penguin Books, yn dod a gweithiau celf gwreiddiol Jackie Morris gyfochr â barddoniaeth Saesneg gan Robert Macfarlane yn ogystal â barddoniaeth Saesneg gan Mererid Hopwood.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Bydd cyfres arbennig o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn Oriel y Parc ac Yr Ysgwrn yn ystod yr arddangosfa gan gynnig cyfle i chi ddarganfod mwy am ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words).
Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd sbesimenau o gasgliadau astudiaethau natur Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i amlygu’r colledion mewn bioamrywiaeth ac egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn.
Ymweliadau Ysgolion
Mae’r Ysgwrn yn annog a chroesawu ymholiadau gan ysgolion i ymweld â’r arddangosfa. Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Ysgwrn os am ragor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
Gwefan ‘The Lost Words’ (Uniaith Saesneg)
Gwefan Oriel y Parc