Ganed Gerald Williams yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, yn 1929. Roedd yn fab i Ivor ac Ann Williams. Roedd Ann yn un o frodyr a chwiorydd iau y bardd, Ellis Humphrey Evans, a adnabyddir yn fwyaf enwog fel Hedd Wyn. Gerald oedd yr ail o bedwar o blant Ivor ac Ann ac yn dilyn marwolaeth Ann, magwyd Gerald yn Yr Ysgwrn gan ei nain a’i daid.

Bywyd a Gwaith Gerald

Addysgwyd Gerald yn Nhrawsfynydd a Blaenau Ffestiniog cyn dychwelyd adref i’r Ysgwrn i helpu ei daid a’i ewythrod ar y fferm. Treuliodd ei oes yn ffermio’r Ysgwrn ac anrhydeddu addewid a wnaeth i’w nain, “i gadw’r drws ar agor” i bererinion oedd yn ymweld â’r Ysgwrn i dalu teyrnged i Hedd Wyn.

Diolch i waith diflino Gerald a’i deulu, cadwyd cof cenedlaethol Cymru am Hedd Wyn a’r genhedlaeth o ieuenctid Cymreig a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw. Mae’r Ysgwrn yn gofeb heddychlon, ddiwylliannol, yn deyrnged gywir i waith rhagorol Gerald a’i deulu. Creodd cymeriad unigryw Gerald, ffraethineb craff a gallu gwych i gyfathrebu ag ymwelwyr o bob oed a chefndir brofiad gwirioneddol unigryw i ymwelwyr yn Yr Ysgwrn. Ymhyfrydai yng nghwmni pobl ac roedd wrth ei fodd gan y diddordeb yr oedd plant a phobl ifanc yn gyffredinol yn ei ddangos yn stori ei ewythr.

Pasio’r awenau

Daeth gwerthu’r fferm i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri â newidiadau a datblygiadau mawr yn Yr Ysgwrn rhwng 2012 a 2017. Bu Gerald yn rhan allweddol o’r prosiect gan gadw llygad barcud ar bob agwedd o’r gwaith, cynnig cyngor craff a sicrhau bod y cafodd awyrgylch unigryw’r ffermdy ei gadw. Yn wir, ei arwyddair oedd “cartref, nid amgueddfa” ac fel Awdurdod, buom yn ffodus i gael cymorth a chefnogaeth parod Gerald ar hyd y blynyddoedd.

Anrhydeddwyd Gerald am waith ei oes yn 2013, pan dderbyniodd yr MBE ar drothwy Yr Ysgwrn ei hun. Yn 2018, derbyniodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru am ei wasanaeth yn Yr Ysgwrn.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.