Ffermdy traddodiadol Cymreig a ddaeth yn symbol i genhedlaeth

Ffermdy cerrig traddodiadol Cymreig yw Yr Ysgwrn wedi ei leoli yn y bryniau uwchben Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae’n fwyaf adnabyddus fel cartref Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, y bardd Cymraeg enwog a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hanes a Symboliaeth

Adeiladwyd Yr Ysgwrn ym 1830 ac mae’n enghraifft wych o ffermdy nodweddiadol o’r 19eg ganrif. Mae waliau cerrig trwchus y ffermdy yn gartref i gegin, parlwr, tair ystafell wely a bwtri, yn ogystal â stabl, certws a llofft wair.

Symudodd teulu Hedd Wyn i’r Ysgwrn yn ystod gwanwyn 1887 o bentref cyfagos Trawsfynydd. Ychydig fisoedd oed fyddai Hedd Wyn pan symudodd y teulu i’r ffermdy. Ar y pryd, fferm fynydd 168 erw oedd yn perthyn i deulu tad Hedd Wyn oedd Yr Ysgwrn.

Ym 1917, daeth Yr Ysgwrn yn llawer mwy na ffermdy Cymreig nodweddiadol wedi i hanes trasing Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyrraedd yr ardal

Roedd Hedd Wyn yn un o’r llu o ddynion ifanc oedd yn ymladd ar reng flaen y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr oedd hefyd yn fardd brwd, gan gystadlu mewn llawer o Eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ym mis Gorffennaf 1917, cyflwynodd gerdd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Erbyn diwedd y mis hwnnw, roedd wedi cael ei anafu’n angheuol yn ystod diwrnod cyntaf y gwrthdaro ym Mrwydr Passchendaele.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym Medi 1917, cyhoeddwyd mai Hedd Wyn oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ar yr un gwynt, cyhoeddwyd i’r gynulleidfa y newyddion trasig fod y bardd ifanc wedi colli ei fywyd ychydig wythnosau ynghynt. Gorchuddwyd y gadair â lliain ddu, gan roddi’r enw ‘Y Gadair Ddu’ ar gadair farddol y flwyddyn honno.

Danfonwyd y gadair i’r Ysgwrn wedi’r seremoni, wedi’i gorchuddio â’r lliain ddu o hyd, a daeth ffermdy’r Ysgwryn yn symbol o hanes Hedd Wyn a cholledion trasig y Rhyfel Byd Cyntaf am byth.

Ffermdy'r Ysgwrn Ffermdy'r Ysgwrn Ffermdy'r Ysgwrn Ffermdy'r Ysgwrn Ffermdy'r Ysgwrn
Ffermdy'r Ysgwrn
Ffermdy'r Ysgwrn
Ffermdy'r Ysgwrn
Ffermdy'r Ysgwrn
Ffermdy'r Ysgwrn

Bywyd yn Yr Ysgwrn

Bywyd syml ond anodd oedd bywoliaeth gwledig Cymeig ar droad yr 20fed ganrif. Roedd y diwrnod yn cylchdroi o amgylch gweithio’r tir a gofalu am y fferm yn ogystal â choginio a glanhau.

Cysegrwyd y Suliau i addoli. Roedd capeli gwledig yn lefydd i gymdeithasu yn ogystal ag addoli ac yn rhan fawr o fywyd nifer fawr o drigolion ardaloedd gwledig.

Roedd barddoniaeth yn fodd gwych o ddifyrwch ac adloniant o fewn y gymuned a byddai cystadlu mewn Eisteddfodau lleol gyda gweithiau o bob math yn boblogaidd.

Hedd Wyn oedd yr hynaf o unarddeg o blant oedd yn byw yn Yr Ysgwrn. Roedd y teulu’n rhannu’r tair ystafell wely fach i fyny’r grisiau yn y ffermdy.

Prynu’r Ysgwrn

Bu aelodau o deulu Hedd Wyn yn byw yn Yr Ysgwrn nes yn ddiweddar. Ganed Gerald Williams yn y ffermdy yn 1929. Roedd ei fam, Ann Williams, yn un o frodyr a chwiorydd iau Hedd Wyn. Bu Gerald yn byw yn Yr Ysgwrn tan 2012. Am flynyddoedd, bu’n ffermio’r tir o amgylch y ffermdy a daeth yn geidwad i stori Yr Ysgwrn a Hedd Wyn. Croesawodd Gerald ymwelwyr i’r cartref am flynyddoedd a gweithiodd yn ddiflino i sicrhau bod stori ei ewythr yn parhau.

Fodd bynnag, yn 2012, penderfynodd Gerald ei bod yn bryd trosglwyddo gwarchodaeth Yr Ysgwrn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

O dan ddymuniad Gerald, prynodd Awdurdod y Parc, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Loteri Genedlaethol, y ffermdy a’r tiroedd o’i amgylch gan ei sicrhau i’r genedl.

Mae tîm ymroddedig Yr Ysgwrn wedi bod yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd ers hynny.

Yr Ysgwrn Heddiw

Heddiw, mae’r ffermdy rhestredig Gradd II* yn sefyll fel symbol o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol ar droad yr 20fed ganrif yn ogystal â traddodiad barddol Cymraeg ac, wrth gwrs, stori drasig Hedd Wyn.

Fferm weithiol ydy’r Ysgwrn erioed ac mae’r tir o’i chwmpas yn dal i gael ei ffermio heddiw gyda defaid a gwartheg.

Mae’r ffermdy wedi’i leoli yng nghanol tirwedd heddychlon a harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Ysgwrn yn le i fwynhau tawelwch a heddwch.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.