Symbol cenedlaethol o golled, traddodiad a bywyd gwledig Cymreig
Am flynyddoedd, roedd Yr Ysgwrn yn un o’r nifer o ffermdai traddodiadol Cymreig oedd yn britho tirwedd cefn gwlad gogledd Cymru. Ym 1917, fodd bynnag, daeth yn symbol o genhedlaeth yn dilyn hanes trasig Hedd Wyn.
Ers hynny, mae’r Ysgwrn nid yn unig yn adlewyrchu colled a thrasiedi rhyfel, ond hefyd traddodiad barddol Cymreig a bywyd gwledig Cymreig ar droad yr 20fed ganrif.


Hedd Wyn
Daeth y bardd Cymraeg a alwodd Yr Ysgwrn yn gartref iddo yn symbol o genhedlaeth o fywydau a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Hedd Wyn

Gerald Williams
Ffermwr a nai i Hedd Wyn a fu’n geidwad i’r Ysgwrn am flynyddoedd lawer.
Gerald Williams