Gofod cyfleus a chartrefol i gyfarfod a chynnal gweithgareddau
Ydych chi’n edrych am ofod cyfleus a chartrefol i gynnal cyfarfod, digwyddiad neu weithgaredd? Gall awyrgylch ymlaciol, cysurus a chlyd Yr Ysgwrn ynghyd â’i ardaloedd awyr agored helaeth fod yn le perffaith.

Ystafell Fawr, Beudy Llwyd
Mae’r Ystafell Fawr yn addas i hyd at 60 o bobl eistedd mewn rhesi neu 40 o amgylch byrddau. Mae modd cau'r ystafell oddi wrth y cyhoedd ond nid yw'r ystafell yn wrthsain.




1/4
Costau Llogi
Mae gostyngiad ar gael i grwpiau cymunedol ac elusennau bychan.
Ystafell Fawr
Diwrnod llawn: £120
Hanner diwrnod: £65
Lluniaeth
Os ydych am estyn croeso cynnes i’ch mynychwyr, mae modd archebu lluniaeth drwy’r Ysgwrn.
Te a choffi (coffi ffilter lleol Poblado)
£2.50 y pen
Te, coffi a bisgedi
£3 y pen
Te, coffi a chacen (Opsiynau di-glwten/fegan ar gael ar alw)
£4.50 y pen
Cinio
Pris ar gael ar gais