Mae Alwen Derbyshire yn gweithio yn yr Ysgwrn fel staff tymhorol ers Gwanwyn 2018 ac yn ei helfen yno yn adrodd straeon am Hedd Wyn, gan ddod â’i gymeriad yn fyw i ymwelwyr.
Yma, mae hi’n ateb ambell gwestiwn i ni gael dod i’w hadnabod yn well.
Beth wnaeth eich denu i weithio yn Yr Ysgwrn?
Athrawes Gymraeg yn Ysgol David Hughes oeddwn i am flynyddoedd ac ar ôl gorffen yno, doeddwn i ddim eisiau jysd bod adra felly nes i fentro mynd am swydd gwbl wahanol.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn Hedd Wyn erioed – a gan mod i’n dod o Ddyffryn Ardudwy yn wreiddiol, mae rhywun wedi ei fagu gyda’r stori. Mi fyddech yn synnu faint o bobl sy’n dod yma yn dweud eu bod nhw’n perthyn i Hedd Wyn ac mae’n debyg mai dyna sut wnes i ddechrau dod yn ymwybodol ohono yn ferch fach gan fod gŵr cyntaf fy nain, yn ôl pob tebyg, yn perthyn iddo.
Mi fyddai Gerald yn arfer dweud fod teulu Hedd Wyn ‘fel rhaffau nionod’, hefo clympiau ohonyn nhw ym mhob man!
Beth ydy eich hoff ddarn o’r daith dywys o amgylch y ffermdy?
Mae’n debyg mai’r peth ydw i’n ei fwynhau fwyaf ydy sôn am Hedd Wyn, y person, ac nid y bardd mewn bocs. Dw i’n licio dweud hanesion amdano efo’i ffrindiau a’i gariadon, sut oedd o’n dipyn o dynnwr coes ac ati, ac wrth gwrs roedd ganddo yntau ei ffaeleddau, fel bob un ohonon ni! Mi fyddai’r rhai oedd yn ei nabod o’n deud ei fod o’n dipyn o freuddwydiwr ac yn reit ddiog – doedd o’n sicr ddim yn fore godwr!
Ma’n ddifyr hefyd, ers gweithio yma, gymaint ydw i yn ei ddysgu gan bobl sy’n ymweld. Dwi’n cofio rhywun yn dod yma rai blynyddoedd yn ôl a deud bod ei nain yn arfer bod yn forwyn fach yn yr Ysgwrn. Mi oedd hi’n cofio Hedd Wyn yn iawn, ac yn cofio sut y byddai’n gofyn iddi weithiau adael ffenestr ei llofft ar agor fel y gallai ddringo mewn i’r tŷ yn hwyr yn y nos pan oedd y drws ffrynt wedi cloi.
Dwi’n licio rhannu’r straeon sy’n rhoi chydig o gnawd i’w gymeriad.
Beth ydy’r ffaith sy’n synnu pobl fwyaf am Hedd Wyn?
Un ffaith sy’n synnu rhai ydy ei daldra – doedd o ddim yn dal iawn – ychydig dros bum troedfedd. Mae na stori dda amdano yn Eisteddfod Llanuwchllyn 1915 pan enillodd y gadair. Mi gododd ar ei draed, yn barod i fynd ar y llwyfan ac mi afaelodd dynes oedd yn eistedd tu ôl iddo yng ngodrau ei got a dweud wrtho’n reit swta i ‘Eistedd i lawr fel y gallai weld pwy sydd wedi ennill y gadair’. Methu credu, mae’n debyg, y gallai creadur mor ddi‐sylw a gwylaidd yr olwg fod wedi ennill.
Pan ti’n gweld llun o’r teulu, mae o yn edrych yn foi reit dal – tall, dark and handsome – ond mae’n debyg mai jysd dark and handsome oedd o!!
Be ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf gyda’r Ysgwrn newydd ail‐agor ar gyfer tymor 2022?
Dwi’n edrych ymlaen am y cyfle i ddeud y stori eto – achos ma hi’n stori mor oesol. Mae hi’n croesi ffiniau dros y byd i gyd ac mae ‘na bobl o bob rhan o’r byd yn dod yma.
Dwi’n licio addasu be mae rhywun yn ddeud yn ôl y gynulleidfa. Mae na ambell un sy’n gwybod dim, ambell un arall sydd efo diddordeb mewn rhyw agwedd arbennig. Ac efo plant, dwi’n addasu be dwi’n ddweud i siwtio nhw. Dwi’n licio’r her o drio dod o hyd i rhywbeth sy’n fan cyffredin i lot o bobl. Rhywbeth mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo. Mae’n braf iawn cael yr amrywiaeth pobl yn dod yma.
Be sy’n bwysig i ni ydy ei wneud o yn brofiad gwerth chweil – ac mae pob elfen yma yn cyfrannu at ddod i adnabod Hedd Wyn. Y golygfeydd, y ffridd, y ffermdy, yr hanesion a’r ardal yn fwy cyffredinol.
Hogyn ei filltir sgwâr oedd o os buodd yna un erioed.