Ysbrydoli gan Yr Ysgwrn: Canrif o greadigrwydd

107 o flynyddoedd ers i Hedd Wyn farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mae arddangosfa barhaol newydd wedi’i gosod yn Yr Ysgwrn, yn dwyn y teitl ‘Yr Ysgwrn yn Ysbrydoli’. Mae’r arddangosfa hon yn archwilio dylanwad dwys Yr Ysgwrn ar lenyddiaeth, celf, a cherddoriaeth dros y ganrif ddiwethaf. 

O feirdd fel T.H. Parry-Williams i Twm Morys, ac artistiaid fel Rob Piercy a Luned Rhys Parri, mae’r ffermdy yma yn Nhrawsfynydd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth dros y ganrif ddiwethaf, ac mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchu hyn. 

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2024/07/Yr-Ysgwrn-yn-Ysbrydoli-1-scaled.jpg
Artistiaid o Gymru
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau celf syfrdanol gan artistiaid enwog, gan gynnwys Luned Rhys Parri, Rob Piercy, Catrin Williams, Wini Lewis Jones, Christine Mills, Lauren Eastwood-Roberts, ac Iwan Bala. Yn ogystal â’r gelfyddyd weledol, gall ymwelwyr fwynhau cerddi teimladwy gan feirdd enwog fel Alan Llwyd a Marged Tudur, sydd hefyd yn cael eu harddangos. 
https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2024/08/Yr-Ysgwrn-yn-Ysbrydoli-8-scaled.jpg
BBC Radio Cymru
Yn ddiweddar, daliodd rhaglen Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru ysbryd creadigol Yr Ysgwrn, gan recordio artistiaid fel Gwyneth Glyn, Melda Lois, Sam Humphreys, a Megg Lloyd wrth iddynt gyfansoddi gweithiau newydd a ysbrydolwyd gan y gofod hanesyddol hwn. Bydd y traciau hyn hefyd ar gael i’w gwrando yn Oriel Yr Ysgwrn.
https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2024/08/Yr-Ysgwrn-yn-Ysbrydoli-7-scaled.jpg
Y Ddresel Gymreig
Mae disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd hefyd wedi cyfrannu dehongliad lliwgar o ddresel Yr Ysgwrn at yr arddangosfa, a grëwyd yn ystod gweithdai gyda’r artist Mari Gwent, gan ychwanegu cyffyrddiad unigryw i’r arddangosfa. 

Diolch yn fawr i Lois Prys am gynllunio’r arddangosfa, i Branwen Haf am guradu, ac i Kevin Lane am osod.

Ymweliadau Ysgolion

Mae’r Ysgwrn yn annog a chroesawu ymholiadau gan ysgolion i ymweld â’r arddangosfa. Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Ysgwrn os am ragor o wybodaeth.

Ymweld â’r Ysgwrn

Galwch draw i weld yr arddangosfa, ac i fwynhau paned a chacen dros olygfeydd bendigedig! 

Cysylltu â’r Ysgwrn

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.