P’un a ydych yn ymweld fel unigolyn neu fel teulu, mae croeso cynnes a chartrefol bob amser yn Yr Ysgwrn.
Mae ffermdy hanesyddol Yr Ysgwrn ar agor i ymwelwyr dydd Mawrth i ddydd Sul, gyda phedair taith dywys bob dydd.
Yn y daith dywys o amgylch y ffermdy, byddwch yn dysgu mwy am fywyd fferm ar droad yr 20fed ganrif ac yn clywed hanes dirdynnol Hedd Wyn, y bardd cenedlaethol a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn cael ei gadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r teithiau cerdded o amgylch y ffridd, mannau picnic, caffi ac amgueddfa ryngweithiol am ddim, ac nid oes angen archebu lle. Gan fod yr Ysgwrn yn fferm weithiol, dim ond cŵn tywys a ganiateir.

Cewch fewnwelediad hynod o fywyd yn Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn ar daith tywys ffermdy’r Ysgwrn.

Mae’r Ysgwrn yn le gwych i ymweld fel grŵp neu daith addysgiadol.

Dewch i gyfarfod y tîm ymroddedig o staff tymhorol sy’n cadw drysau’r Ysgwrn ar agor.

Mae’r Yr Ysgwrn yn leoliad ymlaciol, heddychlon a chartrefol i gynnal eich cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd safle’r Ysgwrn ar gael ar y dudalen Hygyrchedd.
Mae croeso cynnes bob amser yn Yr Ysgwrn a bydd y staff gwirfoddol yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pawb yn cael profiad gwerth chweil.
Wedi’u lleoli ar safle’r Ysgwrn mae:
- Ffermdy’r Ysgwrn (Pedair Taith Dywys y dydd)
- Caffi a siop amgueddfa
- Ystafell gymunedol (Ar gael i’w llogi yn ystod tymor yr haf)
- Arddangosfa ar Hedd Wyn, teulu’r Ysgwrn a chymuned Trawsfynydd
- Ffilm fer ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf
- Toiledau
- Maes parcio
Mae’r Ysgwrn yn fferm weithiol felly ni chaniateir cŵn ar y safle.
Mae croeso i gŵn tywys.
Mae’r Ysgwrn yn leoliad cartrefol, heddychol ac ymlaciol i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae rhagor o wybodaeth am logi’r Ysgwrn ar gael ar y dudalen Llogi’r Ysgwrn.
Os hoffech chi ymweld â ffermdy’r Ysgwrn, bydd rhaid i chi archebu lle ar daith tywys ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar deithiau tywys y ffermdy ar gael ar y dudalen Archebu Lle ar Daith Tywys.
Mae’r Ysgwrn yn leoliad gwych i ymweld fel grŵp neu daith addysgiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Ymweld fel Grŵp neu Ysgol.
Mae’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi bod yn ganolog i gadw drysau’r Ysgwrn ar agor dros y ddegawd diwethaf.
Mae sawl cyfle i ymuno â thîm o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn.