Around and About Map – Tryfan

Graddfa 1: 16000 Mae hwn yn fap sy’n gwrthsefyll dŵr sy’n cwmpasu Tryfan, y Glyder Fawr a’r Glyder Fach ac ardal ogleddol Moel Siabod. Mae’n agor o’i blyg i faint A3.

Bathodyn Pin

Enamel ar fathodyn pin metel o logo’r Parc Cenedlaethol.

Cicerone: Navigation Techniques and Skills

Mae’r llawlyfr mordwyo ymarferol hwn – sy’n cynnwys technegau defnyddio map a chwmpawd – yn eich helpu i feistroli sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer cerdded a mynydda. Fel canllaw bach, maint poced, mae hwn yn gydymaith delfrydol i chi fynd ag o ar y bryniau, a chan y bydd ymarfer yn perffeithio’r grefft, bydd yr amser a dreulir yn cyfeiriannu yn rhoi’r rhyddid a’r hyder i fwynhau ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae’r penodau yn cynnwys cyfarwyddyd ar sut i ddarllen map, sefydlu lle’r ydych chi, cynllunio’ch ffordd / llwybrau, cyfeiriannu yn y nos neu mewn tywydd drwg, yn ogystal â manylion am gyfeiriannu GPS. Mae cyfeiriannu yn sgil sylfaenol hanfodol, a gyda llawlyfr hwn, gallwch fwynhau archwilio’r gwyllt gyda hyder. Mae’r arweinlyfr yn fach ac yn ysgafn, gyda siaced PVC amdano ac mae’n cynnwys cerdyn Cymorth Cyfeiriannu. Gyda diagramau llawn liw a ffotograffiaeth yn llenwi’r llawlyfr bydd hwn yn sicrhau eich bod yn mwynhau’r bryniau i’r eithaf.

Countryside Dog Walks: Snowdonia

Wedi’i ysgrifennu ar gyfer pob perchennog ci sy’n chwilio am deithiau cerdded didrafferth i’w mwynhau gyda’u cŵn, mae’r arweinlyfr hwn wedi ei gynllunio’n hardd ac mae’n llawn lluniau trawiadol – ac mae’n agor llygaid perchnogion cwn i 20 o’r teithiau cerdded gorau yn Eryri. Mae’r ardaloedd yn cynnwys: Betws y Coed, Capel Curig, Conwy, Yr Wyddfa, Dolgellau a Choed y Brenin. Gyda gwybodaeth glir, cyflwyniad ar gyfer pob taith a mapiau syml, hawdd i’w darllen, bydd y llyfr hardd hwn yn apelio at unrhyw un sydd am fentro allan i gefn gwlad gyda’u cŵn. Mae’r teithiau cerdded yn y llyfr wedi’i anelu at bob lefel o ffitrwydd a gallu – yn amrywio o deithiau cerdded byr ar hyd glannau llynnoedd i deithiau cerdded fwy heriol ar y bryniau. Does dim camfeydd, ac mae’r llwybrau yn sicrhau teithiau didrafferth ar gyfer y ci a’r perchennog ill dau. Bydd symlrwydd y canllawiau a’r mapiau yn apelio at unrhyw un sy’n byw mewn, neu’n bwriadu ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri.

Dinky Map – Beddgelert

Beddgelert sy’n ganolbwynt i’r map OS Explorer hwn sy’n faint poced, ac yn dal dŵr.

 

Dinky Map – Betws-y-Coed

Betws y Coed sy’n ganolbwynt i’r map OS Explorer hwn sy’n faint poced, yn dal dŵr ac mae’n mapio’r ardaloedd tua’r de a’r gogledd orllewin.

Dinky Map – Cadair Idris a Dolgellau

Mae’r OS Explorer Map maint poced hwn, sy’n dal dŵr yn tynnu sylw at y prif lwybrau i fyny Cadair Idris yn ogystal â thaith Cynwch a’r Torrent a rhan o lwybr y Fawddach o Ddolgellau.

 

Dinky Map – Copa’r Wyddfa

Mae’r map OS Explorer maint poced hwn, yn un sy’n dal dŵr ac mae’n tynnu sylw at y 7 prif lwybr i fyny’r Wyddfa

 

Enamel Magnet

Magned oergell enamel ar fetel gyda logo’r Parc Cenedlaethol.

Llwybrau Cader Idris

Mae’r llyfryn A5 dwyieithog hwn a gynhyrchwyd gan y Parc Cenedlaethol yn rhoi disgrifiad o lwybrau Tŷ Nant, Minffordd a Llanfihangel y Pennant i gopa Cader Idris.

This site is registered on wpml.org as a development site.