Symbol cenedlaethol o golled, traddodiad a bywyd gwledig Cymreig

Am flynyddoedd, roedd Yr Ysgwrn yn un o’r nifer o ffermdai traddodiadol Cymreig oedd yn britho tirwedd cefn gwlad gogledd Cymru. Ym 1917, fodd bynnag, daeth yn symbol o genhedlaeth yn dilyn hanes trasig Hedd Wyn.

Ers hynny, mae’r Ysgwrn nid yn unig yn adlewyrchu colled a thrasiedi rhyfel, ond hefyd traddodiad barddol Cymreig a bywyd gwledig Cymreig ar droad yr 20fed ganrif.

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/05/Yr-Ysgwrn-1.jpg
Ffermdy'r Ysgwrn
Mae camu dros adwy ffermdy'r Ysgwrn fel camu'n ôl mewn amser.
Ffermdy'r Ysgwrn
https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/Hedd-Wyn-Llyfrgell-Genedlaethol-Cymru.jpeg
Hedd Wyn
Daeth y bardd Cymraeg a alwodd Yr Ysgwrn yn gartref iddo yn symbol o genhedlaeth o fywydau a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Hedd Wyn
https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/Gerald-1-1.jpeg
Gerald Williams
Ffermwr a nai i Hedd Wyn a fu’n geidwad i’r Ysgwrn am flynyddoedd lawer.
Gerald Williams
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.