Mae ymweld â’r Ysgwrn yn brofiad unigryw a hudolus

Mae ffermdy hanesyddol Yr Ysgwrn ar agor i ymwelwyr dydd Mawrth i ddydd Sul, gyda phedair taith dywys bob dydd.

Yn y daith dywys o amgylch y ffermdy, byddwch yn dysgu mwy am fywyd fferm ar droad yr 20fed ganrif ac yn clywed hanes dirdynnol Hedd Wyn, y bardd cenedlaethol a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn cael ei gadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r teithiau cerdded o amgylch y ffridd, mannau picnic, caffi ac amgueddfa ryngweithiol am ddim, ac nid oes angen archebu lle. Gan fod yr Ysgwrn yn fferm weithiol, dim ond cŵn tywys a ganiateir.

Eich ymweliad â'r Ysgwrn

P’un a ydych yn ymweld fel unigolyn neu fel teulu, mae croeso cynnes a chartrefol bob amser yn Yr Ysgwrn.

Teithiau Tywys Ffermdy
Darganfyddwch hanes Yr Ysgwrn. Teithiau yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth i ddydd Sul, bedair gwaith y diwrnod. Argymhellir archebu lle.
Caffi a Siop
Porwch drwy siop yr amgueddfa a blaswch gacennau, te, coffi a diodydd y caffi.
Croeso Cynnes
Mwynhewch y croeso cartrefol a chynnes sydd gan Yr Ysgwrn i'w gynnig.
A fire roars at Yr Ysgwrn's stove with a rocking chair in the foreground
Archebu Lle ar Daith Tywys

Cewch fewnwelediad hynod o fywyd yn Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn ar daith tywys ffermdy’r Ysgwrn.

Archebu Lle ar Daith Tywys

Yr Ysgwrn farmhouse from afar
Oriau Agor

Mae oriau agor Yr Ysgwrn yn amrywio o dymor i dymor.

Oriau Agor

A group of primiary school children on a visit to Yr Ysgwrn
Ymweld fel Grŵp neu Ysgol

Mae’r Ysgwrn yn le gwych i ymweld fel grŵp neu daith addysgiadol.

Ymweld fel Grŵp neu Ysgol

Hygyrchedd

Gwybodaeth am hygyrchedd safle’r Ysgwrn.

Hygyrchedd

Yr Ysgwrn volunteers
Cyfarfod y Tîm

Dewch i gyfarfod y tîm ymroddedig o staff tymhorol sy’n cadw drysau’r Ysgwrn ar agor.

Cyfarfod y Tîm

Yr Ysgwrn's small multi-function room
Llogi'r Ysgwrn

Mae’r Yr Ysgwrn yn leoliad ymlaciol, heddychlon a chartrefol i gynnal eich cyfarfodydd a digwyddiadau.

Llogi’r Ysgwrn

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/269_ffN_Ysgwrn_211.jpg
Caffi a Siop
Mae caffi'r Ysgwrn yn gweini te a choffi, diodydd a dewis o gacennau. Gallwch bori trwy gasgliad o gofroddion, anrhegion, llyfrau a cynnyrch i'r cartref draw yn y siop.
Cwestiynau cyffredin

Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd safle’r Ysgwrn ar gael ar y dudalen Hygyrchedd.

Hygyrchedd

Mae croeso cynnes bob amser yn Yr Ysgwrn a bydd y staff gwirfoddol yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pawb yn cael profiad gwerth chweil.

Wedi’u lleoli ar safle’r Ysgwrn mae:

  • Ffermdy’r Ysgwrn (Pedair Taith Dywys y dydd)
  • Caffi a siop amgueddfa
  • Ystafell gymunedol (Ar gael i’w llogi yn ystod tymor yr haf)
  • Arddangosfa ar Hedd Wyn, teulu’r Ysgwrn a chymuned Trawsfynydd
  • Ffilm fer ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Toiledau
  • Maes parcio

Mae’r Ysgwrn yn fferm weithiol felly ni chaniateir cŵn ar y safle.

Mae croeso i gŵn tywys.

Gwybodaeth ar gŵn yn Eryri

Mae’r Ysgwrn yn leoliad cartrefol, heddychol ac ymlaciol i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae rhagor o wybodaeth am logi’r Ysgwrn ar gael ar y dudalen Llogi’r Ysgwrn.

Llogi’r Ysgwrn

Os hoffech chi ymweld â ffermdy’r Ysgwrn, bydd rhaid i chi archebu lle ar daith tywys ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar deithiau tywys y ffermdy ar gael ar y dudalen Archebu Lle ar Daith Tywys.

Archebu Lle ar Daith Tywys

Mae’r Ysgwrn yn leoliad gwych i ymweld fel grŵp neu daith addysgiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Ymweld fel Grŵp neu Ysgol.

Ymweld fel Grŵp neu Ysgol

Mae’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi bod yn ganolog i gadw drysau’r Ysgwrn ar agor dros y ddegawd diwethaf.

Mae sawl cyfle i ymuno â thîm o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn.

Gwirfoddoli

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.